Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (74) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd cwestiynau 1-3, 5 a 7-15. Tynnwyd cwestiynau 4 ac 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:22.
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Lansio’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Fframwaith Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig
Dechreuodd yr eitem am 14:33.
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru – y wybodaeth ddiweddaraf
Dechreuodd yr eitem am 15:17.
5. Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 16:01
NDM5019 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mai 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 16:14.
NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2(iii)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
7. Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 16:38
NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau
Cyhoeddus yng Nghymru.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y manteision o symleiddio gwasanaethau cyhoeddus o dan un cynllun integredig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw darpariaeth gwasanaeth yn cael ei lleihau na’i hisraddio drwy’r broses hon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
9 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y costau i gyflenwi’r Compact ar gyfer Newid yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan awdurdodau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
9 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.
Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.30
Daeth y cyfarfod i ben am 17:33
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2012